SL(6)587 – Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025
Cefndir a diben
Mae Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn sefydlu ac yn nodi’r fframwaith a’r trefniadau gweithredol ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi (TGT), a ddisodlodd dreth dirlenwi y DU yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig ar gyfer TGT, a fydd yn gymwys i warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2025 neu wedi hynny.
Dyma’r cyfraddau o 1 Ebrill 2025 ymlaen:
- Y gyfradd safonol yw £126.15 y dunnell (wedi’i chynyddu o £103.70 y dunnell),
- Y gyfradd is yw £6.30 y dunnell (wedi’i chynyddu o £3.30 y dunnell)
- Y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £189.25 y dunnell (wedi’i chynyddu o £155.55 y dunnell).
Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2024 neu wedi hynny ond cyn 1 Ebrill 2025 yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r cyfraddau a bennir yn Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024.
Gweithdrefn
Gwneud cadarnhaol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rhaid i’r Senedd gymeradwyo’r Rheoliadau o fewn 28 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.
Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn nodi bod rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru.
ACC sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r tair cyfradd ar gyfer TGT yng Nghymru.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae'r Memorandwm Esboniadol[1] i'r Rheoliadau yn nodi’r canlynol:
“Hyd yn hyn, mae cyfraddau LDT yng Nghymru wedi cyfateb i gyfraddau'r Dreth Dirlenwi (LfT) yn Lloegr a Gogledd Iwerddon … Mae'r Rheoliadau'n cynnig cynnal y dull presennol mewn perthynas â chyfradd safonol LDT, a fydd yn parhau i gyd-fynd â chyfradd safonol LfT… Yn dilyn casgliad yr adolygiad annibynnol o'r Ddeddf LDT[2], ac ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfradd is LDT, mae'r Rheoliadau'n cynnig cynnydd i'r gyfradd is sy'n uwch na'r un ar gyfer LfT.
…Mae codi'r gyfradd is i £6.30 yn gynnydd sylweddol, ac er gwaethaf y ffaith bod y gyfradd is yn gymharol anelastig o ran prisiau, mae'n debygol o leihau faint o wastraff cyfradd is sy'n cael ei dirlenwi. Mae'r opsiwn hwn yn cynyddu £1m ar refeniw yn 2025-26 gan y disgwylir i'r refeniw ychwanegol o'r gyfradd dreth uwch wneud mwy na gwrthbwyso effaith y gostyngiad mewn gwastraff sy'n cael ei dirlenwi.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
26 Chwefror 2025